Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (270) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Pwynt o Drefn
Cododd Kirsty Williams Bwynt o Drefn ynghylch sylwadau’r Prif Weinidog yn ystod yr eitem flaenorol, a oedd yn honni’n anghywir, yn ei barn hi, ei bod yn cael ei thalu i ymgyrchu ar y mater o e-sigarèts. Gan y byddai enillion o’r fath, pe baent yn bodoli, yn fuddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2, byddai methu â’u datgan yn torri Rheol Sefydlog 2 a’r gyfraith. Tynnodd y Prif Weinidog ei sylwadau yn ôl.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd yr eitem am 14.35
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyflawni Newid yng Nghymru drwy’r Polisi Caffael
Dechreuodd yr eitem am 15.27
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Gwella’r seilwaith i ddiwallu anghenion addysg ôl-16
Dechreuodd yr eitem am 16.11
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.38
7 Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cymwysterau Cymru - Gohiriwyd i 16 Mehefin 2015
Daeth y cyfarfod i ben am 17.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015